P-06-1443 Ailsefydlu cyllid craidd ar gyfer TRAC Cymru (Traddodiadau Cerdd Cymru)

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Owen Shiers, ar ôl casglu cyfanswm o 822 lofnodion. 

 

Geiriad y ddeiseb:                           

Ffurfiwyd TRAC i hyrwyddo a thynnu sylw at draddodiadau cerddoriaeth werin a dawns Cymru, er mwyn iddynt gael eu cefnogi ar yr un lefel â mathau eraill o gerddoriaeth glasurol a chyfoes, a genres diwylliannol eraill.

Cymerwyd camau breision yn y degawdau diwethaf i feithrin diwylliant gwerin Cymru, a hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol. Er gwaethaf hynny, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi penderfynu dileu cyllid craidd TRAC, gan olygu na allant barhau â'u gwaith hanfodol. Dyma fynnu bod y cyllid hwn yn cael ei adfer.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn garreg sylfaen yn hunaniaeth ein cenedl. Mae ein cerddoriaeth, ein cân, ein dawns, a’n straeon llafar yn cario ac yn mynegi ein diwylliant a’n ffordd o fyw nodedig. Dyma draddodiadau a gadwyd yn fyw ers canrifoedd gan werin Cymru, gydag ychydig iawn o gydnabyddiaeth na chefnogaeth gan lywodraeth ganolog.

Sefydlwyd TRAC yn 1997 gan grŵp o gerddorion gwerin a chefnogwyr a oedd yn rhannu cred ym mhwysigrwydd a gwerth ein diwylliant traddodiadol, ymwybyddiaeth o’i berthnasedd parhaus i’r presennol, ac angerdd dros rannu’r hyn sydd gan draddodiadau cerddorol i’w gynnig.

Heb gefnogaeth, mae’r ffurfiau traddodiadol hyn yn colli buddsoddiad a ffocws i ffurfiau clasurol a chyfoes o greu cerddoriaeth, ac maent mewn perygl o berthyn i amgueddfeydd yn hytrach na bod yn draddodiad gwerin byw sy’n llywio ein diwylliant cyfoes a’n hymdeimlad o hunaniaeth.

Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud yn y degawdau diwethaf i unioni’r fantol, ond mae cael gwared ar gyllid craidd TRAC yn fygythiad gwirioneddol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd